Cynhelir oedfa arbennig fore Sul 15 Tachwedd i ddathlu penblwydd yr achos yn 125 mlwydd oed. I gofio’r achlysur cyhoeddir llyfryn yn cynnwys lluniau, atgofion a chrynodeb o hanes yr achos, a bydd copïau ar gael y bore Sul hwnnw. Croeso cynnes i bawb. Tweet
Ar drydydd nos Wener y mis, mae’r Gymdeithas yn cyfarfod. Maent yn mwynhau cyngerddau, siaradwyr, eisteddfod, trafodaethau a gwibdaith yn yr haf. Tweet
Mae’r Grŵp Merched yn croesawu siaradwyr ar amryw o bynciau e.e. llenyddiaeth a cherddoriaeth yn ogystal â chynnal gweithgareddau eraill. Tweet
Mae nifer fawr o blant yr Eglwys yn mynychu’r Ysgol Sul a’r Feithrinfa. Dewch i’r Crwys erbyn 10.30 ar ddydd Sul ac yna ymunwch â’r criw ar ôl y gwasanaeth dechreuol i ddysgu a mwynhau. Tweet
Mae’r Gymdeithas Ddrama yn brysur iawn drwy gydol y flwyddyn gyda dwy gynhyrchiad a phanto. Tweet